Concerts

Gŵyl Corau Meibion Cymry Llundain
Perfformiad cyntaf y Gerddorfa Siambr Gymreig yn Neuadd Frenhinol Albert, yn cyfeilio i lu o gorau meibion gorau’r byd.

Llinynnau’r Haf yn Abermaw
Noswaith gerddorol o haf gyda cherddorfa o linynnau ac offerynnau taro. Mozart, Coleridge-Taylor, Elgar a mwy.

Llinynnau’r Haf ym Machynlleth
Noswaith gerddorol o haf gyda cherddorfa o linynnau ac offerynnau taro. Mozart, Coleridge-Taylor, Elgar a mwy.

Llinynnau’r Haf yng Nghaergybi
Noswaith gerddorol o haf gyda cherddorfa o linynnau ac offerynnau taro. Mozart, Coleridge-Taylor, Elgar a mwy.

Mozart a Morfydd
Bydd y Gerddorfa Siambr Gymreig yn dychwelyd i Flaengarw gyda rhaglen yn dathlu athrylith unigryw Mozart a’r cyfansoddwr Cymreig Morfydd Owen. Bydd y perfformiad yn cynnwys y concerto i’r basŵn gan Mozart gyda’r unawdydd Meyrick Alexander.

Y Gerddorfa Siambr Gymreig yn Ystradgynlais
Perfformiad byd cyntaf o ‘Tirluniau Cymru’ gan Sarah Frances Jenkins, a symffoni olaf odidog Mozart rhif 41, ‘Iau’.

Y Gerddorfa Siambr Gymreig yn Llanfair-ym-Muallt
Bydd y Gerddorfa Siambr Gymreig yn dychwelyd i Lanfair-ym-Muallt gyda symffoni olaf ddramatig Mozart rhif 41, ‘Iau’, Symffoni rhif 92 ‘Rhydychen’ gan Haydn a chomisiwn newydd gan Sarah Frances Jenkins, ‘Tirluniau Cymru’.

Llinynnau’r Haf ym Maesteg
Rhaglen o gerddoriaeth i linynnau ac offerynnau taro ar gyfer noson o haf. Mozart, Coleridge-Taylor, Elgar a mwy.

Mozart yn Y Fenni
Bydd y Gerddorfa Siambr Gymreig yn dychwelyd i’r Fenni gyda’r bariton Jeremy Huw Williams ar gyfer noson hafaidd o ariâu operatig gorau Mozart a mwy.

Mozart yn Y Trallwng
Prynhawn hafaidd o gerddoriaeth gan gynnwys Concerto i’r Piano rhif 12 gan Mozart gyda’r unawdydd Tomos Boyles.

Y Gerddorfa Siambr Gymreig yng Nghaerdydd
Ymunwch â’r Gerddorfa Siambr Gymreig gyfan am noson hafaidd ysblennydd o Mozart, Handel, Haydn, Morfydd Owen a chomisiwn newydd gan Sarah Frances Jenkins.

Y Gerddorfa Siambr Gymreig yn Llanelli
Bydd y Gerddorfa Siambr Gymreig yn dychwelyd i Glwb Cerdd Llanelli ar gyfer rhan olaf ei thaith haf, gan gynnwys cerddoriaeth Mozart, Morfydd Owen, Haydn a chomisiwn newydd gan Sarah Frances Jenkins.
